Cyhoeddwyd 08/07/2026 | Diweddaru Diwethaf 30/07/2026
- Daeth digwyddiad brecwast busnes a gynhaliwyd gan Trydan Gwyrdd Cymru (Trydan) â busnesau ledled Sir Gaerfyrddin a'r rhanbarth ehangach ynghyd i drafod cyfleoedd sy'n deillio o ddatblygiadau economaidd strategol.
- Tynnodd y digwyddiad sylw at gyfleoedd y gallai prosiectau fel Fferm Wynt arfaethedig Glyn Cothi Trydan eu creu i fusnesau Cymru.
- Trydan Gwyrdd Cymru yw'r datblygwr ynni adnewyddadwy sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru. Mae'n gweithredu er budd Cymru yn unig, gyda'r holl elw a gynhyrchir yn cael ei ddychwelyd i Lywodraeth Cymru.
Mynychodd dros 50 o gynrychiolwyr o fusnesau a sefydliadau o bob cwr o dde-orllewin Cymru frecwast busnes a gynhaliwyd gan Trydan Gwyrdd Cymru yng Ngwesty’r Ivy Bush yng Nghaerfyrddin ddydd Llun 6 Gorffennaf.
Arweiniwyd y digwyddiad gan Antur Cymru, menter gymdeithasol leol a chenedlaethol sy'n cefnogi busnesau ledled Cymru, ac ardaloedd gwledig yn benodol, a chroesawyd siaradwyr gwadd, gan gynnwys y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod y Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, Chris Foxall o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, Alice Jones o Gymdeithas Porthladdoedd Prydain ac Andrew Eilbeck o Knights Brown.
Rhoddodd y digwyddiad drosolwg i fusnesau lleol o ddatblygiad economaidd yn y rhanbarth, a'r cwmpas ar gyfer cyfleoedd mwy yn y rhanbarth ar ffurf buddsoddiad, twf busnes a swyddi, yn deillio o gynhyrchu ynni adnewyddadwy.
Mae'r digwyddiad yn rhan o ymgysylltiad parhaus Trydan Gwyrdd Cymru â'r gymuned leol ar ei Fferm Wynt arfaethedig Glyn Cothi, sydd wedi'i lleoli yng Nghoedwig Brechfa, Sir Gaerfyrddin.
Os caiff ganiatâd i gael ei hadeiladu, byddai Fferm Wynt arfaethedig Glyn Cothi Trydan yn darparu digon o ynni diogel a glân i bweru gofynion trydan cyfatebol 144,000 o gartrefi cyffredin Cymru, creu swyddi medrus, a chontractio â'r gadwyn gyflenwi leol drwy gydol cyfnod ai hadeiladu.
Dywedodd Richard Evans, Prif Weithredwr Trydan Gwyrdd Cymru:
“Mae Trydan Gwyrdd Cymru yn helpu i sicrhau bod Cymru yn cymryd mwy o reolaeth dros ein dyfodol ynni, gan gadw mwy o werth prosiectau yng Nghymru. Mae cynhyrchu trydan cartref i bweru ein cartrefi, busnesau, systemau trafnidiaeth, ac uchelgeisiau technolegol allweddol, yn ganolog i alluogi mwy o gynhyrchiant a ffyniant, gan ein hamddiffyn rhag sioc prisiau ynni rhyngwladol a helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
“Rydym ni o ddifrif ynglŷn â’r gwerth lleol y mae ein prosiectau’n ei gyflawni, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda busnesau a sefydliadau lleol yn Sir Gaerfyrddin a thu hwnt, i sicrhau bod prosiect Glyn Cothi yn cyflawni buddion pendant a pharhaol.”
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod y Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd Cyngor Sir Caerfyrddin:
“Yr hyn sy’n fy nghyffroi fwyaf yw bod gennym ni gyfle nawr i feddwl yn wahanol am ynni yn gyfan gwbl. Ers degawdau mae ein system ynni wedi’i chynllunio o amgylch canoli. Ond mae technolegau newydd a diwygiadau rheoleiddio’n dechrau ein cyfeirio tuag at rywbeth mwy craff a lleol - rhwydwaith ynni lleol cysylltiedig lle mae’r pŵer a gynhyrchwn yn Sir Gaerfyrddin yn helpu i bweru Sir Gaerfyrddin, gan gadw ynni a chyfoeth yn lleol.
“Dyma pam mae prosiect arfaethedig Glyn Cothi mor bwysig. Mae'n gyfle i feddwl yn wahanol.”
Dywedodd Zoe Antrobus o 4theregion:
“Roedd yn wych mynychu Brecwast Busnes Sir Gaerfyrddin Trydan Gwyrdd Cymru a gweld cymaint o fusnesau a phartneriaid yn yr ystafell.
“I 4theRegion, mae'r sgyrsiau hyn yn wirioneddol bwysig oherwydd eu bod yn dod â phobl ynghyd ar draws sectorau, yn tynnu sylw at y cyfleoedd sy'n dod i'r amlwg ar draws y rhanbarth, ac yn dangos sut y gall ynni adnewyddadwy, seilwaith a budd cymunedol gydweithio er lles de-orllewin Cymru.”
Fel datblygwr ynni adnewyddadwy cyhoeddus Cymru, cenhadaeth Trydan Gwyrdd Cymru yw cynhyrchu ynni glân a diogel gan sicrhau bod mwy o fanteision prosiectau adnewyddadwy ar raddfa fawr yn cael eu cadw yng Nghymru.
Am ragor o wybodaeth am Fferm Wynt arfaethedig Glyn Cothi, ewch i www.trydanglyncothi.cymru