Lansio Ymgynghoriad Cyhoeddus Anffurfiol ar gyfer Fferm Wynt Glyn Cothi ger Brechfa, Sir Gaerfyrddin

Cyhoeddwyd 22/10/2025   |   Diweddaru Diwethaf 30/07/2026

Mae Trydan Gwyrdd Cymru, cwmni ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, yn lansio ymgynghoriad â phobl leol ynghylch ei gynigion ar gyfer Fferm Wynt Glyn Cothi yng Nghoedwig Brechfa, Sir Gaerfyrddin.

Byddai fferm wynt Glyn Cothi yn gwneud cyfraniad pwysig at sicrhau cyflenwadau ynni a mynd i'r afael â newid hinsawdd gyda hyd at 27 o dyrbinau (162MW gan ddefnyddio tyrbinau 6MW): digon i bweru 144,000 o gartrefi cyffredin yng Nghymru gyda thrydan glân1.

Mae Trydan Gwyrdd Cymru hefyd yn canolbwyntio ar sicrhau buddion eraill yn lleol gan gynnwys gwella natur ar y safle, cyllid cymunedol, a gwell mynediad hamdden i'r goedwig. Mae Trydan yn defnyddio prosesau caffael cyhoeddus i greu cyfleoedd i gyflenwyr lleol a chefnogi swyddi yn yr economi werdd sy'n tyfu. A chan fod Trydan Gwyrdd Cymru yn gweithredu er budd Cymru yn unig, bydd yr elw a gynhyrchir yn cael ei ddychwelyd i Lywodraeth Cymru fel unig gyfranddaliwr y cwmni.

Dywedodd Simon Morgan, Cyfarwyddwr Datblygu yn Trydan Gwyrdd Cymru:

“Mae dyluniad ein prosiect yn ei gam cychwynnol. Mae'n hanfodol bwysig i ni fod lleisiau'r gymuned yn cael eu clywed ac yn helpu i lunio'r cynllun. Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â phobl yn y digwyddiadau ymgynghori, clywed barn a syniadau pobl leol, a bwydo ein dysgu yn ôl i gam nesaf y broses ddylunio.”

“Ein nod yw gwneud y defnydd gorau o dir cyhoeddus ac adnoddau naturiol toreithiog Cymru i gynhyrchu ynni glân gan sicrhau bod buddion yn cael eu teimlo'n lleol.”

Bydd tîm Trydan Gwyrdd Cymru yn cynnal digwyddiadau galw heibio lleol a fydd yn cynnwys model digidol o sut olwg allai fod ar y fferm wynt, byrddau gwybodaeth am y prosiect a mapiau.

Cynhelir y digwyddiadau yn:

3:30pm - 7:00pm, dydd Iau 6 Tachwedd yn Ysgol Gynradd Llanybydder, SA40 9RP

3:00pm - 7:00pm dydd Gwener 7 Tachwedd yn Neuadd yr Eglwys Abergorlech, SA32 7SN

10:00am – 2:00pm dydd Sadwrn 8 Tachwedd yn Neuadd yr Eglwys Brechfa, SA32 7RA

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn cael ei gynnal ar-lein yn https://trydanglyncothi.cymru.

1 Defnydd trydan cyfartalog blynyddol = 162 MW (capasiti wedi'i osod) x 0.3082 (ffactor llwyth gwynt) x 8760 awr / 3.032 MWh. Ffynhonnell: RenewableUK.