Ymgynghoriad anffurfiol
Rydym yn cynnal ymgynghoriad anffurfiol ar ein cynlluniau cynnar ar gyfer Fferm Wynt Glyn Cothi. Isod gallwch weld yr arddangosfa rithwir, cylchlythyr diweddaraf y prosiect, a llenwi ffurflen adborth ar-lein.
Rydym hefyd yn cynnal tri digwyddiad ymgynghori wyneb yn wyneb lle gallwch:
- Gwrdd â thîm Glyn Cothi
- Gweld model digidol o sut olwg allai fod ar y fferm wynt
- Gofyn cwestiynau a rhoi adborth
|
Dydd Iau 6 Tachwedd 2025 3:30pm-7:00pm Ysgol Gynradd Llanybydder Llanybydder SA40 9RP |
Dydd Gwener 7 Tachwedd 2025 3:00pm-7:00pm Neuadd Eglwys Abergorlech Abergorlech SA32 7SN |
Dydd Sadwrn 8 Tachwedd 2025 10:00am-2:00pm Neuadd Eglwys Brechfa Caerfyrddin SA32 7RA |
Er y byddwn yn cynnal digwyddiadau ymgynghori pellach yn 2026, ar gyfer y rownd hon o ymgynghori byddem yn ddiolchgar pe gallech roi eich adborth erbyn 5pm ddydd Mercher 26 Tachwedd 2025.
Rydym yn dal i fod yng nghyfnodau cynnar iawn y prosiect hwn, ond mae llawer o waith eisoes wedi'i wneud, o arolygon adar ac ecolegol, mapio a chasglu data, penodi ymgynghorwyr, a mynd allan i siarad â chynrychiolwyr etholedig lleol.
Rydym yn dibynnu arnoch chi i gymryd rhan, helpu i lunio a chyflawni'r prosiect gorau posibl ar gyfer eich ardal!
Y flwyddyn nesaf, byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio statudol lle byddwn yn cyflwyno ein cais cynllunio drafft llawn gan roi cyfle i aelodau’r cyhoedd ac ymgyngoreion statudol roi adborth.