Ysgol Llanybydder yn Grymuso Arwyr Gwyrdd

Datganiad i'r wasg: Rhagfyr 2025

Cynhaliodd Trydan Gwyrdd Cymru (Trydan), cwmni ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, ymgynghoriad yn ddiweddar ynghylch ei gynigion ar gyfer fferm wynt yng Nghoedwig Brechfa, Sir Gaerfyrddin.

Cafodd dros 50 o ddisgyblion o Ysgol Llanybydder gipolwg ar fferm wynt arfaethedig Glyn Cothi, a hyrwyddwyd gan Trydan ym mis Tachwedd.   

Mae Ysgol Llanybydder yn gwasanaethu cymuned ger safle'r fferm wynt arfaethedig, ac yn ystod ymweliad Trydan, cymerodd y plant ran mewn cyfres o weithgareddau hwyliog a rhyngweithiol a gynlluniwyd i ennyn chwilfrydedd am ynni adnewyddadwy.

O greu tyrbinau gwynt o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu i gystadlu mewn cwis bywiog oedd yn profi eu gwybodaeth, cofleidiodd y plant y sesiynau gyda brwdfrydedd.

Buont hefyd yn archwilio model rhithwir o'r fferm wynt arfaethedig, gan ddod â chynlluniau Glyn Cothi yn fyw mewn ffordd ddiddorol.

I ddathlu eu hymdrechion, derbyniodd pob disgybl roséd 'arwr gwyrdd' a rhoddodd Trydan docynnau llyfrau i'r ysgol i annog dysgu a darllen pellach.

Dywedodd Dr Catrin Ellis Jones, Pennaeth Ymrwymiad Cyhoeddus Trydan Gwyrdd Cymru:

“Mae gweld pobl mor ifanc yn dangos cymaint o ddiddordeb mewn ynni adnewyddadwy’n ysbrydoledig. Nid yn unig ydy’r sesiynau hyn yn archwilio ac egluro rhai o nodweddion y prosiect, maen nhw’n dangos bod Cymru ar flaen y gad o ran ynni glân ac yn rhoi ymdeimlad o botensial y daith honno i’r genhedlaeth nesaf.

“Roedd y plant wrth eu bodd yn gweld y fferm wynt yn dod yn fyw trwy’r delweddiadau 3D, ac mae eu chwilfrydedd a’u syniadau’n ein hatgoffa pam mae’r gwaith hwn yn bwysig.”

Yn y tri digwyddiad ymgynghori ym mis Tachwedd roedd tîm Trydan wrth law i ateb ymholiadau, casglu adborth, a hysbysu pobl am y cynlluniau cynnar ar gyfer y cynllun 27 tyrbin, a lansiwyd yn haf 2025.

Roedd model digidol o sut olwg allai fod ar y datblygiad ar gael ym mhob sesiwn, oedd yn caniatáu i drigolion lleol ddelweddu sut y gallai'r safle newydd ymddangos yn y dirwedd, gan gynnwys ochr yn ochr â'r seilwaith presennol.

Mynychodd mwy na 200 o bobl y digwyddiadau galw heibio a gynhaliwyd yn Llanybydder, Abergorlech a Brechfa yn Sir Gaerfyrddin.

Fel yr unig gwmni ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r wladwriaeth yng Nghymru, cenhadaeth y cwmni yw darparu pŵer glân a diogel, gan sicrhau bod mwy o fuddion prosiectau ar raddfa cyfleustodau’n aros yn y genedl.

Mae David Thomas, rheolwr prosiect Glyn Cothi, yn credu bod yr ymgynghoriad wedi rhoi mewnwelediadau a gwybodaeth allweddol i helpu llunio dyfodol y datblygiad.

Dywedodd: “Mae meithrin perthnasoedd â thrigolion yn allweddol i ni wrth weithio ar brosiectau, ac mae'r cyfle i ymgysylltu â'r gymuned wedi bod yn hanfodol.

“Rhoddodd y sesiynau hyn gyfle gwerthfawr inni wrando, ymateb i gwestiynau, ac egluro sut rydyn ni’n gweithio i amddiffyn a gwella’r amgylchedd. Bydd yr adborth a gawsom yn helpu i lunio dyfodol y prosiect, ac rydyn ni wedi ymrwymo i gadw’r ddeialog honno ar agor wrth i gynlluniau fynd rhagddynt.”

Mae Trydan Gwyrdd Cymru hefyd yn canolbwyntio ar sicrhau buddion lleol eraill gan gynnwys gwella natur ar y safle, cyllid cymunedol, a gwell mynediad hamdden i’r goedwig. Mae Trydan yn defnyddio prosesau caffael cyhoeddus i greu cyfleoedd i gyflenwyr lleol a chefnogi swyddi yn yr economi werdd sy’n tyfu. A chan fod Trydan Gwyrdd Cymru yn gweithredu er budd Cymru yn unig, bydd yr elw a gynhyrchir yn cael ei ddychwelyd i Lywodraeth Cymru fel unig gyfranddaliwr y cwmni.

*Defnydd trydan blynyddol cyfartalog = 162 MW (capasiti wedi'i osod) x 0.3082 (ffactor llwyth pob gwynt) x 8760 awr / 3.032 MWh. Ffynhonnell: RenewableUK.